| |
Yn
ddinas ag iddi borthladd, mae Caerdydd heb os yn ganolbwynt
ar gyfer gemau; yn ystod dyddiau a fu, daeth morwyr â
gemau cardiau newydd i’r ddinas, ac erbyn hyn mae pobl
o bob oed yn chwarae gemau ar y rhwydwaith ddigidol, gyda’u
peiriannau X-box. Mae gemau o’r fath yn gyfle i gymysgu
a chymdeithasu, ac yn fan lle gall y dychymyg flodeuo a datblygu.
Er bod gemau digidol bellach yn rhan o ddiwydiant sydd yn
fwy hyd yn oed na diwydiant ffilm Hollywood, mae pobl ifainc
yn dychwelyd at y gemau cardiau mwy traddodiadol – mae
i’r gemau hynny, wedi’r cyfan, lefel o gyfeillgarwch
ac agosatrwydd dynol na all y Playstation fyth mo’i
efelychu.
Mae’r artistiaid Grennan a Sperandio, fel gwesteion
gwadd, wedi dyfeisio gêm gardiau newydd i Gaerdydd.
Fe fydd gan y gêm newydd hon gyfuniad unigryw o reolau
– ac fe fydd hi’n hwyl i’w chwarae. Mae
nodweddion a hunaniaeth y gêm yn deillio o gyfarfodydd
a sgyrsiau â phobl o bobman. Mae’r gêm newydd
hon wedi’i bwriadu fel adlewyrchiad a phortread o Gaerdydd,
prifddinas hynafol a chyfoes.
Teitl gweithiol y gêm yw DWYN, ac fe fydd y gêm
yn adlewyrchu holl agweddau’r gair hwnnw. R’yn
ni wedi dychmygu DWYN fel gêm fywiog, fydd yn llawn
o gyfnewid cardiau. Mae yna nifer o agweddau pendant a phenodol
i’r gêm. Dyma’r cynllun ar gyfer y cefn,
neu’r ‘ochr gyffredin’.
Mae cardiau DWYN yn ffurfio’n becyn o chwe siwt. Mae’r
siwtiau wedi’u rhannu’n dri lliw, coch, du a gwyrdd.
Yn ogystal â chardiau plaen ag arnyn nhw rifau, mae’r
ffigyrau ar y cardiau’n cynrychioli cymeriadau o hanes
Cymru ac o ddiwylliant poblogaidd.
|
|
|
 |
Cliciwch ar y lluniau bychain
i weld delwedd fwy. |
 |
|
 |
|
 |
| T?R - Helen o Gymru |
|
PÊL RYGBI – Chwaraewr
Rygbi |
|
PENGLOG - Capten Morgan |
|
 |
|
 |
|
 |
| TARIAN - Owain Glynd?r |
|
CAIB A RHAW GLÖWR
- glöwr o’r 19eg ganrif |
|
DEILEN - Ceridwen,
Duwies Natur Mytholeg Geltaidd |
|
 |
|
|
|
|
CEFN -
neu’r ‘ochr gyffredin’. |
|
|
|
|
| |
|
|
|
|
|
|
|
YNGLYN Â GRENNAN A SPERANDIO
Ers 1990, mae’r awduron, yr artistiaid
a’r cynhyrchwyr, Grennan a Sperandio, wedi gweithio mewn nifer
o gyfryngau gwahanol gan gynnwys teledu, bariau siocled, llyfrau
comic a’r we. Dewch i ymweld â ni ar-lein ar Kartoonkings.com.
|
|
|